Junior Section

Denbigh Harriers, with the support of Welsh Athletics, has created a junior section for young runners aged from 9 to 17 based in the Vale of Clwyd.

Denbigh Harriers is a running club proud of its friendliness, inclusiveness and the achievements of all of its members. We have a membership of over 130 runners of all abilities and ages (currently 20 – 80). All members are encouraged and supported by a team of 17 Welsh Athletics qualified volunteers with either a Leadership in Running Fitness or Coach in Running Fitness qualification. Some of this team supports the young harriers to develop so that they can take part in competitions and races in the area. This support might be for anything between someone wanting to improve their Parkrun time to a young athlete who wants to compete in a regional championship.

Cross Country 71817381_10157074439999262_8575872061619044352_o

The club runs two one hour junior sessions in Denbigh a week for those who want to improve their running endurance, speed, strength and style. If the weather permits training takes place on grass, if not,  training takes place in a sports hall and on quiet, well lit roads with pavements. We aim to make these sessions enjoyable  so young athletes can develop at their own pace in a happy environment. To ensure that all the runners taking part in sessions are covered by Welsh Athletics insurance the club will have to raise an annual membership fee of £15 per annum.

198677880

The club has had great success in all the forms of running with national and regional representation on the road, cross country, track and fell running. The club currently has members holding Regional and Welsh age category titles and records. It is hoped that the introduction of a Young Harriers section will expand on this success. 

Contact: denbighharriers@gmail.com

Mae Denbigh Harriers, gyda chefnogaeth Athletau Cymru, wedi cychwyn adran ieuenctid ar gyfer rhedwyr o Ddyffryn Clwyd sydd rhwng 9 oed a 17 oed.

Mae Denbigh Harriers yn glwb rhedeg sydd yn falch o’i naws cyfeillgar, cynhwysol a chyflawniadau ei holl aelodau. Mae gennym aelodaeth o dros 130 o redwyr o bob safonac oedran ( 20 i 80 oed). Annogir a chefnogir yr aelodau gan dîm o 17 o Arweinwyr Ffitrwydd Rhedeg sydd, un ai, wedi cymhwyso fel Arweinydd Ffitrwydd Rhedeg neu fel Hyfforddwr Ffitrwydd Rhedeg. Bydd rhai o’r arweinwr a hyfforddwyr yma yn cefnogi y rhedwyr ifanc i ddatblygu a chystadlu mewn cystadlaethau a rasys yn yr ardal leol. Bydd y gefnogaeth yma yn amrywio o helpu pobl ifanc i wella eu hamser mewn Parkrun neu eu paratoi ar gyfer cystadleuaeth rhedeg rhanbarthol.

Mae’r clwb yn cynnal awr o sesiwn i ieuenctid yn unig, ddwy waith yr wythnosi’r rhedwyr ifanc hynny sydd eisiau datblygu eu dyfalbarhad, cyflymder, cryfder ac arddull rhedeg. Os fydd y tywydd yn caniatau  bydd yr hyfforddi yn digwydd ar laswellt ac os na fydd yn tywydd yn ffafriol bydd yr hyfforddi yn digwydd mewn neuadd chwaraeon neu ar ffyrdd tawel, gyda pafin, wedi eu goleuo yn dda. Annelir i wneud y sesiynau yn bleserus fel bo’r rhedwyr yn datblygu yn eu cyflymdra eu hunain o fewn amgylchedd  cefnogol a hapus. Er mwyn sicrhau fod y rhedwyr yn cael budd o yswiriant Athletau Cymru bydd rhaid i’r clwb godi taliad blynyddol  o £15 y flwyddyn ar y rhedwyr.

Mae’r clwb wedi cael llwyddiant mawr mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhanbarthol mewn rasys ffordd, traws gwlad ac ar y mynyddoedd a’r bryniau. Mae yna aelodau o’r clwb sydd, ar y funud, yn dal pencampwriaethau cenedlaethol yn eu categoriau oedran. Gobeithir y bydd adran ieuenctid yr Harriers yn cynnyddu ar y llwyddiant yma a gosod sail i’r dyfodol.